18 Bu Josua'n ymladd â'r holl frenhinoedd hyn am amser maith.
19 Ni wnaeth yr un ddinas gytundeb heddwch â'r Israeliaid, heblaw'r Hefiaid oedd yn byw yn Gibeon; cymryd y cwbl trwy ryfel a wnaethant.
20 Yr ARGLWYDD oedd yn caledu eu calon i ryfela yn erbyn Israel, er mwyn iddynt eu difodi yn ddidrugaredd, ac yn wir eu distrywio fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.
21 Y pryd hwnnw aeth Josua a difa'r Anacim o'r mynydd-dir o gwmpas Hebron, Debir, ac Anab, ac o holl fynydd-dir Jwda ac Israel; difododd Josua hwy a'u dinasoedd.
22 Ni adawyd Anacim ar ôl yng ngwlad yr Israeliaid, ond yr oedd gweddill ohonynt ar ôl yn Gasa, Gath ac Asdod.
23 Enillodd Josua yr holl wlad yn unol â'r cwbl a lefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, a rhoddodd Josua hi yn etifeddiaeth i Israel yn ôl cyfrannau'r llwythau. A chafodd y wlad lonydd rhag rhyfel.