3 Yr oedd y Canaaneaid i'r dwyrain a'r gorllewin, a'r Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid a Jebusiaid yn y mynydd-dir, gyda'r Hefiaid dan Fynydd Hermon yn ardal Mispa.
4 Daethant allan, hwy a'u holl fyddinoedd, yn llu enfawr, mor niferus â'r tywod ar lan y môr, gyda llawer iawn o feirch a cherbydau.
5 Wedi i'r holl frenhinoedd hyn ymgynnull, aethant a gwersyllu ynghyd ger Dyfroedd Merom er mwyn ymladd ag Israel.
6 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, “Paid â'u hofni, oherwydd tua'r adeg yma yfory byddaf yn rhoi pob un yn gelain gerbron Israel; byddi'n torri llinynnau garrau eu meirch ac yn llosgi eu cerbydau â thân.”
7 Daeth Josua a'r holl filwyr oedd gydag ef ar eu gwarthaf yn ddisymwth ger Dyfroedd Merom, a rhuthro arnynt.
8 Rhoddodd yr ARGLWYDD hwy yn llaw Israel; trawsant hwy, a'u hymlid hyd at Sidon Fawr a Misreffoth-maim, a dyffryn Mispa i'r dwyrain. Trawsant hwy, heb arbed neb.
9 Gwnaeth Josua iddynt fel y dywedodd yr ARGLWYDD wrtho; torrodd linynnau garrau eu meirch a llosgodd eu cerbydau â thân.