7 Daeth Josua a'r holl filwyr oedd gydag ef ar eu gwarthaf yn ddisymwth ger Dyfroedd Merom, a rhuthro arnynt.
8 Rhoddodd yr ARGLWYDD hwy yn llaw Israel; trawsant hwy, a'u hymlid hyd at Sidon Fawr a Misreffoth-maim, a dyffryn Mispa i'r dwyrain. Trawsant hwy, heb arbed neb.
9 Gwnaeth Josua iddynt fel y dywedodd yr ARGLWYDD wrtho; torrodd linynnau garrau eu meirch a llosgodd eu cerbydau â thân.
10 Y pryd hwnnw trodd Josua i gyfeiriad Hasor a'i goresgyn, a lladd ei brenin â'r cleddyf. Yr oedd Hasor gynt yn ben ar yr holl deyrnasoedd hynny.
11 Trawsant bawb oedd ynddi â'r cleddyf a'u lladd, heb arbed yr un perchen anadl, ac yna llosgi Hasor â thân.
12 Goresgynnodd Josua bob un o ddinasoedd y brenhinoedd hyn yn ogystal â'u brenhinoedd; trawodd hwy â'r cleddyf a'u difodi, fel y gorchmynnodd Moses gwas yr ARGLWYDD.
13 Ond am y dinasoedd oedd yn sefyll ar garneddau, ni losgodd Israel yr un ohonynt, ac eithrio Hasor, a losgwyd gan Josua.