14 Ni roddwyd etifeddiaeth i lwyth Lefi; oherwydd offrymau trwy dân yr ARGLWYDD, Duw Israel, yw eu hetifeddiaeth hwy, fel y dywedodd ef wrthynt.
15 Yr oedd Moses wedi rhoi etifeddiaeth i lwyth Reuben yn ôl eu teuluoedd.
16 Yr oedd eu tiriogaeth yn ymestyn o Aroer sydd ar ymyl nant Arnon, ac o'r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn, gyda'r holl wastadedd hyd at Medeba;
17 yr oedd yn cynnwys Hesbon a'i holl drefi ar y gwastadedd, Dibon, Bamoth-baal, Beth-baal-meon,
18 Jahas, Cedemoth, Meffaath,
19 Ciriathaim, Sibma, Sereth-sahar ar fynydd y glyn,
20 Beth-peor, llethrau Pisga a Beth-jesimoth,