10 O Baala yr oedd y terfyn yn troi tua'r gorllewin at Fynydd Seir ac yn croesi llechwedd gogleddol Mynydd Jearim, sef Cesalon, cyn disgyn at Beth-semes ac ymlaen at Timna.
11 Wedi hyn âi'r terfyn ymlaen hyd lechwedd gogleddol Ecron, yna mynd i gyfeiriad Sicceron, ymlaen at Fynydd Baala ac at Jabneel, nes cyrraedd y môr.
12 Glannau'r Môr Mawr oedd y terfyn gorllewinol. Dyma'r terfyn o amgylch Jwda yn ôl eu tylwythau.
13 Yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD i Josua, rhoddwyd i Caleb fab Jeffunne randir yn Jwda, sef Ciriath-arba, hynny yw Hebron; tad yr Anaciaid oedd Arba.
14 Gyrrodd Caleb allan oddi yno dri o'r Anaciaid, sef Sesai, Ahiman a Talmai, disgynyddion Anac.
15 Oddi yno ymosododd ar drigolion Debir; Ciriath-seffer oedd enw Debir gynt.
16 Dywedodd Caleb, “Pwy bynnag a drawo Ciriath-seffer a'i hennill, fe roddaf fy merch Achsa yn wraig iddo.”