2 Yna âi o Fethel i Lus, a chroesi terfyn yr Arciaid yn Ataroth;
3 wedyn disgynnai tua'r gorllewin at derfyn y Jaffletiaid, cyn belled â therfyn Beth-horon Isaf a Geser, nes cyrraedd y môr.
4 Hon oedd yr etifeddiaeth a gafodd Manasse ac Effraim, meibion Joseff.
5 Dyma derfyn yr Effraimiaid yn ôl eu tylwythau: yr oedd terfyn eu hetifeddiaeth yn ymestyn o Ataroth-adar yn y dwyrain hyd Beth-horon Uchaf;
6 yna âi ymlaen at y môr, at Michmetha yn y gogledd, a throi i'r dwyrain o Taanath-seilo a mynd heibio iddi i'r dwyrain at Janoha.
7 Âi i lawr o Janoha i Ataroth a Naarath, gan gyffwrdd â Jericho ac ymlaen at yr Iorddonen.
8 O Tappua âi'r terfyn tua'r gorllewin ar hyd nant Cana nes cyrraedd y môr. Dyma etifeddiaeth llwyth Effraim yn ôl eu tylwythau.