7 Âi i lawr o Janoha i Ataroth a Naarath, gan gyffwrdd â Jericho ac ymlaen at yr Iorddonen.
8 O Tappua âi'r terfyn tua'r gorllewin ar hyd nant Cana nes cyrraedd y môr. Dyma etifeddiaeth llwyth Effraim yn ôl eu tylwythau.
9 Yr oedd yn cynnwys hefyd y trefi a neilltuwyd i Effraim yng nghanol etifeddiaeth Manasse, yr holl drefi a'u pentrefi.
10 Ni ddisodlwyd y Canaaneaid oedd yn byw yn Geser; felly y mae'r Canaaneaid yn byw ymysg yr Effraimiaid hyd y dydd hwn, ond eu bod dan lafur gorfod.