10 Yr oedd y tir i'r de'n perthyn i Effraim, ond y tir i'r gogledd yn perthyn i Manasse. Yr oedd tir Manasse'n ymestyn at y môr, ac yn ffinio ar Aser i'r gogledd ac ar Issachar i'r dwyrain.
11 O fewn Issachar ac Aser, eiddo Manasse oedd Beth-sean ac Ibleam a'u maestrefi, a hefyd y rhai oedd yn byw yn Dor, Endor, Taanach a Megido a'u maestrefi. Naffath yw'r drydedd dref uchod.
12 Ni allodd Manasse feddiannu'r trefi hyn; felly daliodd y Canaaneaid eu tir yn y rhan honno o'r wlad.
13 Ond wedi i'r Israeliaid ymgryfhau, rhoesant y Canaaneaid dan lafur gorfod, er iddynt fethu eu disodli'n llwyr.
14 Dywedodd disgynyddion Joseff wrth Josua, “Pam na roddaist inni ond un gyfran ac un rhandir yn etifeddiaeth, a ninnau'n bobl niferus, ac wedi'n bendithio mor helaeth gan yr ARGLWYDD?”
15 Atebodd Josua hwy, “Os ydych yn bobl mor niferus, a mynydd-dir Effraim yn rhy gyfyng i chwi, ewch i fyny i'r goedwig a chlirio tir ichwi'ch hunain yno, yn nhiriogaeth y Peresiaid a'r Reffaim.”
16 Dywedodd disgynyddion Joseff, “Nid yw'r mynydd-dir yn ddigon inni, ac y mae cerbydau heyrn gan yr holl Ganaaneaid sy'n byw ar y gwastatir yn Beth-sean a'i maestrefi, ac yn nyffryn Jesreel.”