4 Daeth y rhain gerbron yr offeiriad Eleasar, Josua fab Nun a'r arweinwyr, a dweud, “Gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses roi inni etifeddiaeth ymysg ein pobl.” Ac fe roddwyd iddynt etifeddiaeth ymysg brodyr eu tad, yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD.
5 Felly disgynnodd deg rhan i Manasse, yn ychwanegol at dir Gilead a Basan y tu hwnt i'r Iorddonen,
6 am fod merched Manasse wedi etifeddu cyfran ynghyd â'r meibion; aeth tir Gilead i weddill meibion Manasse.
7 Yr oedd terfyn Manasse'n ymestyn o Aser i Michmetha, sydd i'r dwyrain o Sichem, ac ymlaen i'r de at Jasub ger En-tappua.
8 Perthyn i Manasse yr oedd tir Tappua, ond yr oedd Tappua ei hun ar derfyn Manasse ac yn perthyn i blant Effraim.
9 Âi'r terfyn i lawr nant Cana i'r de. Trefi yn perthyn i Effraim oedd y rhai ar ochr ddeheuol y nant, er eu bod yng nghanol trefi Manasse, a bod terfyn Manasse yn rhedeg ar ochr ogleddol y nant nes cyrraedd y môr.
10 Yr oedd y tir i'r de'n perthyn i Effraim, ond y tir i'r gogledd yn perthyn i Manasse. Yr oedd tir Manasse'n ymestyn at y môr, ac yn ffinio ar Aser i'r gogledd ac ar Issachar i'r dwyrain.