11 ac yna i fyny tua'r gorllewin at Marala, gan gyffwrdd â Dabbeseth ac â'r nant gyferbyn â Jocneam.
12 Yr oedd y terfyn yn troi'n ôl o Sarid tua'r dwyrain a chodiad haul, ac yna'n mynd i fyny at Cisloth-tabor, ac ymlaen at Daberath ac i fyny i Jaffia.
13 Oddi yno âi yn ei flaen tua'r dwyrain i Gath-heffer ac Itta-casin, nes cyrraedd Rimon a throi tua Nea.
14 Yr oedd y terfyn yn troi i'r gogledd o Hannathon, nes cyrraedd dyffryn Jifftahel,
15 gan gynnwys Cattath, Nahalal, Simron, Idala a Bethlehem: deuddeg o drefi a'u pentrefi.
16 Dyma etifeddiaeth llwyth Sabulon yn ôl eu tylwythau, y trefi hyn a'u pentrefi.
17 I Issachar y disgynnodd y pedwerydd coelbren, i lwyth Issachar yn ôl eu tylwythau.