17 I Issachar y disgynnodd y pedwerydd coelbren, i lwyth Issachar yn ôl eu tylwythau.
18 Yn eu tiriogaeth hwy yr oedd Jesreel, Cesuloth, Sunem,
19 Haffraim, Sihon, Anaharath,
20 Rabbith, Cision, Abes,
21 Remeth, En-gannim, En-hada a Beth-passes.
22 Yr oedd y terfyn yn cyffwrdd â Tabor, Sahasima a Beth-semes, ac yn cyrraedd yr Iorddonen: un ar bymtheg o drefi a'u pentrefi.
23 Dyma etifeddiaeth llwyth Issachar yn ôl eu tylwythau, yn drefi a'u pentrefi.