26 Alammelech, Amad a Misal; yn y gorllewin yr oedd eu terfyn yn cyffwrdd â Charmel a Sihor Libnath.
27 Yr oedd yn troi'n ôl tua'r dwyrain at Beth-dagon, ac yna'n cyffwrdd â Sabulon a dyffryn Jifftahel, ac yn mynd tua'r gogledd at Beth-emec a Neiel, heibio i Cabwl,
28 Ebron, Rehob, Hammon a Cana hyd at Sidon Fawr.
29 Yr oedd y terfyn yn troi yn Rama ac yn cyrraedd dinas gaerog Tyrus, ac yna'n troi tua Hosa nes cyrraedd Mahalab, Achsib,
30 Acco, Affec a Rehob: dwy ar hugain o drefi a'u pentrefi.
31 Dyma etifeddiaeth llwyth Aser yn ôl eu tylwythau, y trefi hyn a'u pentrefi.
32 I lwyth Nafftali y disgynnodd y chweched coelbren, i lwyth Nafftali yn ôl eu tylwythau.