28 Ebron, Rehob, Hammon a Cana hyd at Sidon Fawr.
29 Yr oedd y terfyn yn troi yn Rama ac yn cyrraedd dinas gaerog Tyrus, ac yna'n troi tua Hosa nes cyrraedd Mahalab, Achsib,
30 Acco, Affec a Rehob: dwy ar hugain o drefi a'u pentrefi.
31 Dyma etifeddiaeth llwyth Aser yn ôl eu tylwythau, y trefi hyn a'u pentrefi.
32 I lwyth Nafftali y disgynnodd y chweched coelbren, i lwyth Nafftali yn ôl eu tylwythau.
33 Âi eu terfyn hwy o Heleff, o'r dderwen yn Saanannim heibio i Adami-neceb a Jabneel i Laccum, nes cyrraedd yr Iorddonen.
34 Yr oedd y terfyn yn troi tua'r gorllewin yn Asnoth-tabor ac yn mynd oddi yno i Huccoc, gan gyffwrdd â Sabulon i'r de, ac Aser i'r gorllewin, a Jwda ger yr Iorddonen i'r dwyrain.