34 Yr oedd y terfyn yn troi tua'r gorllewin yn Asnoth-tabor ac yn mynd oddi yno i Huccoc, gan gyffwrdd â Sabulon i'r de, ac Aser i'r gorllewin, a Jwda ger yr Iorddonen i'r dwyrain.
35 Eu dinasoedd caerog oedd Sidim, Ser, Hammath, Raccath, Cinnereth,
36 Adama, Rama, Hasor,
37 Cedes, Edrei, En-hasor,
38 Iron, Migdal-el, Horem, Beth-anath a Beth-semes: pedair ar bymtheg o drefi a'u pentrefi.
39 Dyma etifeddiaeth llwyth Nafftali yn ôl eu tylwythau, yn drefi a'u pentrefi.
40 Disgynnodd y seithfed coelbren i lwyth Dan yn ôl eu tylwythau.