44 Eltece, Gibbethon, Baalath,
45 Jehud, Bene-berac, Gath-rimmon,
46 Meiarcon, a Raccon, a hefyd y tir gyferbyn â Jopa.
47 Pan gollodd y Daniaid eu tiriogaeth, aethant i fyny ac ymladd yn erbyn Lesem a'i chipio; trawsant hi â min cleddyf, a'i meddiannu ac ymsefydlu yno, gan alw Lesem yn Dan ar ôl eu tad.
48 Dyma etifeddiaeth llwyth Dan yn ôl eu tylwythau, y trefi hyn a'u pentrefi.
49 Wedi iddynt orffen rhannu'r wlad yn ôl ei therfynau, rhoddodd yr Israeliaid etifeddiaeth yn eu mysg i Josua fab Nun.
50 Yn unol â gorchymyn yr ARGLWYDD, rhoesant iddo'r ddinas y gofynnodd amdani, sef Timnath-sera ym mynydd-dir Effraim; ac wedi iddo'i hailadeiladu, bu fyw yno.