48 Dyma etifeddiaeth llwyth Dan yn ôl eu tylwythau, y trefi hyn a'u pentrefi.
49 Wedi iddynt orffen rhannu'r wlad yn ôl ei therfynau, rhoddodd yr Israeliaid etifeddiaeth yn eu mysg i Josua fab Nun.
50 Yn unol â gorchymyn yr ARGLWYDD, rhoesant iddo'r ddinas y gofynnodd amdani, sef Timnath-sera ym mynydd-dir Effraim; ac wedi iddo'i hailadeiladu, bu fyw yno.
51 Dyma'r etifeddiaethau a rannodd yr offeiriad Eleasar, a Josua fab Nun a'r pennau-teuluoedd, trwy goelbren, i lwythau Israel yn Seilo gerbron yr ARGLWYDD, yn nrws pabell y cyfarfod. A gorffenasant rannu'r wlad.