8 hefyd yr holl bentrefi o amgylch y trefi hyn, hyd at Baalath-beer, Ramath-negef. Dyma etifeddiaeth llwyth Simeon yn ôl eu tylwythau.
9 Daeth peth o randir Jwda yn etifeddiaeth i Simeon, am fod rhan llwyth Jwda yn ormod iddynt; felly etifeddodd Simeon gyfran yng nghanol etifeddiaeth Jwda.
10 Disgynnodd y trydydd coelbren i lwyth Sabulon yn ôl eu tylwythau; yr oedd terfyn eu hetifeddiaeth hwy'n ymestyn hyd Sarid,
11 ac yna i fyny tua'r gorllewin at Marala, gan gyffwrdd â Dabbeseth ac â'r nant gyferbyn â Jocneam.
12 Yr oedd y terfyn yn troi'n ôl o Sarid tua'r dwyrain a chodiad haul, ac yna'n mynd i fyny at Cisloth-tabor, ac ymlaen at Daberath ac i fyny i Jaffia.
13 Oddi yno âi yn ei flaen tua'r dwyrain i Gath-heffer ac Itta-casin, nes cyrraedd Rimon a throi tua Nea.
14 Yr oedd y terfyn yn troi i'r gogledd o Hannathon, nes cyrraedd dyffryn Jifftahel,