15 Daethant at y Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse yng ngwlad Gilead a dweud wrthynt,
16 “Y mae holl gynulleidfa'r ARGLWYDD yn gofyn, ‘Beth yw'r brad hwn yr ydych wedi ei wneud yn erbyn Duw Israel trwy gefnu ar yr ARGLWYDD, ac adeiladu allor heddiw mewn gwrthryfel yn ei erbyn?
17 Onid oedd trosedd Peor yn ddigon inni? Nid ydym hyd heddiw yn lân oddi wrtho, a bu'n achos pla ar gynulleidfa'r ARGLWYDD.
18 Dyma chwi'n awr yn cefnu ar yr ARGLWYDD; ac os gwrthryfelwch yn ei erbyn ef heddiw, yna bydd ei ddicter yntau yn erbyn holl gynulleidfa Israel yfory.
19 Os yw'r wlad a feddiannwyd gennych yn aflan, dewch drosodd i wlad sydd ym meddiant yr ARGLWYDD, lle saif tabernacl yr ARGLWYDD, a derbyniwch ran yn ein plith ni. Peidiwch â gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD, na ninnau, drwy adeiladu ichwi unrhyw allor ar wahân i allor yr ARGLWYDD ein Duw.
20 Pan droseddodd Achan fab Sera ynglŷn â'r diofryd, oni ddaeth dicter ar holl gynulleidfa Israel? Ac er mai un oedd ef, nid un yn unig a drengodd am ei drosedd.’ ”
21 Atebodd y Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse a dweud wrth benaethiaid tylwythau Israel,