21 Atebodd y Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse a dweud wrth benaethiaid tylwythau Israel,
22 “Yr ARGLWYDD yw Duw y duwiau! Yr ARGLWYDD yw Duw y duwiau! Fe ŵyr ef y gwir; bydded i Israel hefyd ei wybod. Os mewn gwrthryfel neu frad yn erbyn yr ARGLWYDD y gwnaed hyn, peidiwch â'n harbed ni heddiw.
23 Os bu inni adeiladu allor i droi oddi wrth yr ARGLWYDD, ac i offrymu arni boethoffrymau a bwydoffrymau, neu i ddarparu heddoffrymau, bydded i'r ARGLWYDD ei hun ein dwyn i gyfrif.
24 Yn hytrach gwnaethom hyn rhag ofn i'ch plant chwi yn y dyfodol ddweud wrth ein plant ni, ‘Beth sydd a wneloch chwi ag ARGLWYDD Dduw Israel?
25 Y mae'r ARGLWYDD wedi gosod yr Iorddonen yn ffin rhyngom ni a chwi, llwythau Reuben a Gad; nid oes gennych chwi ran yn yr ARGLWYDD.’ Yna gallai eich plant chwi rwystro'n plant ni rhag addoli'r ARGLWYDD.
26 Am hynny dywedasom, ‘Awn ati i adeiladu allor, nid ar gyfer poethoffrwm nac aberth,
27 ond yn dyst rhyngom ni a chwi, a rhwng y cenedlaethau a ddaw ar ein hôl, ein bod ninnau hefyd i gael gwasanaethu'r ARGLWYDD â'n poethoffrymau a'n hebyrth a'n heddoffrymau, fel na all eich plant chwi edliw i'n plant ni yn y dyfodol, “Nid oes gennych chwi ran yn yr ARGLWYDD”.’