24 Yn hytrach gwnaethom hyn rhag ofn i'ch plant chwi yn y dyfodol ddweud wrth ein plant ni, ‘Beth sydd a wneloch chwi ag ARGLWYDD Dduw Israel?
25 Y mae'r ARGLWYDD wedi gosod yr Iorddonen yn ffin rhyngom ni a chwi, llwythau Reuben a Gad; nid oes gennych chwi ran yn yr ARGLWYDD.’ Yna gallai eich plant chwi rwystro'n plant ni rhag addoli'r ARGLWYDD.
26 Am hynny dywedasom, ‘Awn ati i adeiladu allor, nid ar gyfer poethoffrwm nac aberth,
27 ond yn dyst rhyngom ni a chwi, a rhwng y cenedlaethau a ddaw ar ein hôl, ein bod ninnau hefyd i gael gwasanaethu'r ARGLWYDD â'n poethoffrymau a'n hebyrth a'n heddoffrymau, fel na all eich plant chwi edliw i'n plant ni yn y dyfodol, “Nid oes gennych chwi ran yn yr ARGLWYDD”.’
28 Yr oeddem yn meddwl, ‘Petaent yn dweud hyn wrthym ac wrth ein plant yn y dyfodol, byddem ninnau'n dweud, “Edrychwch ar y copi o allor yr ARGLWYDD a wnaeth ein hynafiaid, nid ar gyfer poethoffrymau nac aberth, ond yn dyst rhyngom ni a chwi”.’
29 Pell y bo oddi wrthym ein bod yn gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD, a chefnu arno trwy godi unrhyw allor ar gyfer poethoffrwm neu fwydoffrwm neu aberth heblaw allor yr ARGLWYDD ein Duw sydd o flaen ei dabernacl.”
30 Pan glywodd yr offeiriad Phinees, a phenaethiaid y gynulleidfa a phennau tylwythau Israel oedd gydag ef, yr hyn a ddywedodd y Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse, yr oeddent yn falch iawn.