26 Am hynny dywedasom, ‘Awn ati i adeiladu allor, nid ar gyfer poethoffrwm nac aberth,
27 ond yn dyst rhyngom ni a chwi, a rhwng y cenedlaethau a ddaw ar ein hôl, ein bod ninnau hefyd i gael gwasanaethu'r ARGLWYDD â'n poethoffrymau a'n hebyrth a'n heddoffrymau, fel na all eich plant chwi edliw i'n plant ni yn y dyfodol, “Nid oes gennych chwi ran yn yr ARGLWYDD”.’
28 Yr oeddem yn meddwl, ‘Petaent yn dweud hyn wrthym ac wrth ein plant yn y dyfodol, byddem ninnau'n dweud, “Edrychwch ar y copi o allor yr ARGLWYDD a wnaeth ein hynafiaid, nid ar gyfer poethoffrymau nac aberth, ond yn dyst rhyngom ni a chwi”.’
29 Pell y bo oddi wrthym ein bod yn gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD, a chefnu arno trwy godi unrhyw allor ar gyfer poethoffrwm neu fwydoffrwm neu aberth heblaw allor yr ARGLWYDD ein Duw sydd o flaen ei dabernacl.”
30 Pan glywodd yr offeiriad Phinees, a phenaethiaid y gynulleidfa a phennau tylwythau Israel oedd gydag ef, yr hyn a ddywedodd y Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse, yr oeddent yn falch iawn.
31 Ac meddai Phinees, mab yr offeiriad Eleasar, wrth y Reubeniaid, y Gadiaid a'r Manasseaid, “Yn awr fe wyddom fod yr ARGLWYDD yn ein plith; oherwydd nid ydych wedi gwneud y brad hwn yn erbyn yr ARGLWYDD, ond wedi gwaredu'r Israeliaid o'i law.”
32 Yna dychwelodd Phinees, mab yr offeiriad Eleasar, a'r penaethiaid oddi wrth y Reubeniaid a'r Gadiaid, a mynd yn ôl i wlad Gilead at yr Israeliaid yng ngwlad Canaan, a rhoi adroddiad iddynt.