30 Pan glywodd yr offeiriad Phinees, a phenaethiaid y gynulleidfa a phennau tylwythau Israel oedd gydag ef, yr hyn a ddywedodd y Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse, yr oeddent yn falch iawn.
31 Ac meddai Phinees, mab yr offeiriad Eleasar, wrth y Reubeniaid, y Gadiaid a'r Manasseaid, “Yn awr fe wyddom fod yr ARGLWYDD yn ein plith; oherwydd nid ydych wedi gwneud y brad hwn yn erbyn yr ARGLWYDD, ond wedi gwaredu'r Israeliaid o'i law.”
32 Yna dychwelodd Phinees, mab yr offeiriad Eleasar, a'r penaethiaid oddi wrth y Reubeniaid a'r Gadiaid, a mynd yn ôl i wlad Gilead at yr Israeliaid yng ngwlad Canaan, a rhoi adroddiad iddynt.
33 Derbyniodd yr Israeliaid yr adroddiad yn llawen, a bendithio Duw. Ni bu rhagor o sôn am fynd i ryfel a difetha'r wlad lle'r oedd y Reubeniaid a'r Gadiaid yn byw.
34 Rhoddodd y Reubeniaid a'r Gadiaid yr enw Tyst i'r allor. “Am ei bod,” meddent, “yn dyst rhyngom mai'r ARGLWYDD sydd Dduw.”