6 Yna bendithiodd Josua hwy a'u gollwng ymaith, ac aethant adref.
7 I hanner llwyth Manasse yr oedd Moses wedi rhoi tir yn Basan; i'r hanner arall rhoddodd Josua dir gyda'u perthnasau i'r gorllewin o'r Iorddonen. Wrth eu hanfon adref a'u bendithio,
8 dywedodd Josua wrthynt, “Dychwelwch adref â chyfoeth mawr a llawer iawn o anifeiliaid, hefyd arian, aur, pres a haearn, a llawer iawn o ddillad; rhannwch â'ch perthnasau ysbail eich gelynion.”
9 Dychwelodd y Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse o Seilo yng ngwlad Canaan, a gadael yr Israeliaid i fynd i wlad Gilead, y diriogaeth a feddiannwyd ganddynt yn ôl gair yr ARGLWYDD drwy Moses.
10 Pan ddaethant i Geliloth ger yr Iorddonen, cododd y Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse allor yno yng ngwlad Canaan ger yr Iorddonen; yr oedd yn allor nodedig o fawr.
11 Clywodd yr Israeliaid fod y Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse wedi adeiladu allor ar derfyn gwlad Canaan, yn Geliloth ger yr Iorddonen, ar ochr yr Israeliaid;
12 ac wedi iddynt glywed, ymgynullodd holl gynulleidfa'r Israeliaid i Seilo, er mwyn mynd i ryfel yn eu herbyn.