1 Casglodd Josua holl lwythau Israel ynghyd i Sichem, a galwodd henuriaid, penaethiaid, barnwyr a swyddogion Israel i ymddangos gerbron Duw.
2 Yna dywedodd Josua wrth yr holl bobl, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: ‘Ers talwm yr oedd Tera, tad Abraham a Nachor eich hynafiaid, yn byw y tu hwnt i'r Ewffrates ac yn addoli duwiau estron.
3 Ond fe gymerais eich tad Abraham o'r tu hwnt i'r Ewffrates a'i arwain trwy holl wlad Canaan, ac amlhau ei ddisgynyddion. Rhoddais iddo Isaac;
4 ac i Isaac rhoddais Jacob ac Esau. Rhoddais fynydd-dir Seir yn eiddo i Esau, ond aeth Jacob a'i blant i lawr i'r Aifft.
5 Yna anfonais Moses ac Aaron, a gosod pla ar yr Aifft, trwy'r hyn a wneuthum yno; wedi hynny deuthum â chwi allan.
6 Deuthum â'ch hynafiaid allan o'r Aifft hyd at y môr, a'r Eifftiaid yn eu hymlid â cherbydau a gwŷr meirch hyd at y Môr Coch.