23 “Yn awr ynteu,” meddai, “bwriwch allan y duwiau estron sydd yn eich mysg, a throwch eich calon at yr ARGLWYDD, Duw Israel.”
24 Dywedodd y bobl wrth Josua, “Fe addolwn yr ARGLWYDD ein Duw, a gwrandawn ar ei lais ef.”
25 Gwnaeth Josua gyfamod â'r bobl y diwrnod hwnnw yn Sichem, a gosod deddf a chyfraith ar eu cyfer.
26 Ysgrifennodd y geiriau hynny yn llyfr cyfraith Duw, a chymryd maen mawr a'i osod i fyny yno o dan dderwen oedd yng nghysegr yr ARGLWYDD.
27 Dywedodd wrth yr holl bobl, “Edrychwch, bydd y maen hwn yn dystiolaeth yn ein herbyn, oherwydd clywodd yr holl eiriau a lefarodd yr ARGLWYDD wrthym, a bydd yn dystiolaeth yn eich erbyn os byddwch yn gwadu eich Duw.”
28 Yna gollyngodd Josua'r bobl, bob un i'w etifeddiaeth.
29 Wedi'r pethau hyn bu farw Josua fab Nun, gwas yr ARGLWYDD, yn gant a deg oed.