13 yna aeth y saith offeiriad, a oedd yn cario'r saith utgorn o gorn hwrdd, o flaen arch yr ARGLWYDD gan seinio'r utgyrn, gyda'r gwŷr arfog o'u blaen a'r ôl-osgordd yn dilyn yr arch; yr oedd yr utgyrn yn seinio wrth iddynt fynd.
14 Ar ôl amgylchu'r ddinas un waith ar yr ail ddiwrnod, aethant yn eu hôl i'r gwersyll. Gwnaethant felly am chwe diwrnod.
15 Ar y seithfed dydd, codasant gyda'r wawr ac amgylchu'r ddinas yr un modd saith o weithiau; y diwrnod hwnnw'n unig yr amgylchwyd y ddinas seithwaith.
16 Yna ar y seithfed tro, pan seiniodd yr offeiriaid yr utgyrn, dywedodd Josua wrth y fyddin, “Bloeddiwch, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi'r ddinas i chwi.
17 Y mae'r ddinas a phopeth sydd ynddi i fod yn ddiofryd i'r ARGLWYDD. Rahab y butain yn unig sydd i gael byw, hi a phawb sydd gyda hi yn y tŷ, am iddi guddio'r negeswyr a anfonwyd gennym.
18 Ond gochelwch chwi rhag yr hyn sy'n ddiofryd; peidiwch â chymryd ohono ar ôl ei ddiofrydu, rhag gwneud gwersyll Israel yn ddiofryd a dwyn helbul arno.
19 Y mae'r holl arian ac aur, a'r offer pres a haearn, yn gysegredig i'r ARGLWYDD, ac i fynd i drysorfa'r ARGLWYDD.”