16 Yna ar y seithfed tro, pan seiniodd yr offeiriaid yr utgyrn, dywedodd Josua wrth y fyddin, “Bloeddiwch, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi'r ddinas i chwi.
17 Y mae'r ddinas a phopeth sydd ynddi i fod yn ddiofryd i'r ARGLWYDD. Rahab y butain yn unig sydd i gael byw, hi a phawb sydd gyda hi yn y tŷ, am iddi guddio'r negeswyr a anfonwyd gennym.
18 Ond gochelwch chwi rhag yr hyn sy'n ddiofryd; peidiwch â chymryd ohono ar ôl ei ddiofrydu, rhag gwneud gwersyll Israel yn ddiofryd a dwyn helbul arno.
19 Y mae'r holl arian ac aur, a'r offer pres a haearn, yn gysegredig i'r ARGLWYDD, ac i fynd i drysorfa'r ARGLWYDD.”
20 Bloeddiodd y bobl pan seiniodd yr utgyrn; ac wedi i'r fyddin glywed sain yr utgyrn, a bloeddio â bloedd uchel, syrthiodd y mur i lawr ac aeth y fyddin i fyny am y ddinas, bob un ar ei gyfer, a'i chipio.
21 Distrywiwyd â'r cleddyf bopeth yn y ddinas, yn wŷr a gwragedd, yn hen ac ifainc, yn ychen, defaid ac asynnod.
22 Dywedodd Josua wrth y ddau ddyn a fu'n ysbïo'r wlad, “Ewch i dŷ'r butain, a dewch â hi allan, hi a phawb sy'n perthyn iddi, yn unol â'ch addewid iddi.”