18 Ond gochelwch chwi rhag yr hyn sy'n ddiofryd; peidiwch â chymryd ohono ar ôl ei ddiofrydu, rhag gwneud gwersyll Israel yn ddiofryd a dwyn helbul arno.
19 Y mae'r holl arian ac aur, a'r offer pres a haearn, yn gysegredig i'r ARGLWYDD, ac i fynd i drysorfa'r ARGLWYDD.”
20 Bloeddiodd y bobl pan seiniodd yr utgyrn; ac wedi i'r fyddin glywed sain yr utgyrn, a bloeddio â bloedd uchel, syrthiodd y mur i lawr ac aeth y fyddin i fyny am y ddinas, bob un ar ei gyfer, a'i chipio.
21 Distrywiwyd â'r cleddyf bopeth yn y ddinas, yn wŷr a gwragedd, yn hen ac ifainc, yn ychen, defaid ac asynnod.
22 Dywedodd Josua wrth y ddau ddyn a fu'n ysbïo'r wlad, “Ewch i dŷ'r butain, a dewch â hi allan, hi a phawb sy'n perthyn iddi, yn unol â'ch addewid iddi.”
23 Aeth yr ysbïwyr, a dwyn allan Rahab a'i thad a'i mam a'i brodyr a phawb oedd yn perthyn iddi; yn wir daethant â'i thylwyth i gyd oddi yno a'u gosod y tu allan i wersyll Israel.
24 Yna llosgasant y ddinas a phopeth ynddi â thân, ond rhoesant yr arian a'r aur a'r offer pres a haearn yn nhrysorfa tŷ'r ARGLWYDD.