20 Bloeddiodd y bobl pan seiniodd yr utgyrn; ac wedi i'r fyddin glywed sain yr utgyrn, a bloeddio â bloedd uchel, syrthiodd y mur i lawr ac aeth y fyddin i fyny am y ddinas, bob un ar ei gyfer, a'i chipio.
21 Distrywiwyd â'r cleddyf bopeth yn y ddinas, yn wŷr a gwragedd, yn hen ac ifainc, yn ychen, defaid ac asynnod.
22 Dywedodd Josua wrth y ddau ddyn a fu'n ysbïo'r wlad, “Ewch i dŷ'r butain, a dewch â hi allan, hi a phawb sy'n perthyn iddi, yn unol â'ch addewid iddi.”
23 Aeth yr ysbïwyr, a dwyn allan Rahab a'i thad a'i mam a'i brodyr a phawb oedd yn perthyn iddi; yn wir daethant â'i thylwyth i gyd oddi yno a'u gosod y tu allan i wersyll Israel.
24 Yna llosgasant y ddinas a phopeth ynddi â thân, ond rhoesant yr arian a'r aur a'r offer pres a haearn yn nhrysorfa tŷ'r ARGLWYDD.
25 Ond arbedodd Josua Rahab y butain a'i theulu a phawb oedd yn perthyn iddi, am iddi guddio'r negeswyr a anfonodd Josua i ysbïo Jericho; ac y maent yn byw ymhlith yr Israeliaid hyd y dydd hwn.
26 A'r pryd hwnnw cyhoeddodd Josua y llw hwn, a dweud:“Melltigedig gerbron yr ARGLWYDDfyddo'r sawl a gyfyd ac a adeilada'r ddinas hon, Jericho;ar draul ei gyntafanedig y gesyd ei seiliau hi,ac ar draul ei fab ieuengaf y cyfyd ei phyrth.”