8 Ac wedi i Josua lefaru wrth y fyddin, cerddodd y saith offeiriad oedd yn cario'r saith utgorn o gorn hwrdd o flaen yr ARGLWYDD, gan seinio'r utgyrn, ac arch cyfamod yr ARGLWYDD yn eu dilyn.
9 Yr oedd y gwŷr arfog yn mynd o flaen yr offeiriaid oedd yn seinio'r utgyrn, a'r ôl-osgordd yn dilyn yr arch; yr oedd yr utgyrn yn seinio wrth iddynt fynd.
10 Yr oedd Josua wedi gorchymyn i'r fyddin, “Peidiwch â gweiddi na chodi eich llais nac yngan yr un gair tan y diwrnod y dywedaf wrthych am floeddio; yna bloeddiwch.”
11 Aethant ag arch yr ARGLWYDD o amgylch y ddinas un waith, ac yna dychwelyd i'r gwersyll i fwrw'r nos.
12 Cododd Josua'n fore, a chymerodd yr offeiriaid arch yr ARGLWYDD;
13 yna aeth y saith offeiriad, a oedd yn cario'r saith utgorn o gorn hwrdd, o flaen arch yr ARGLWYDD gan seinio'r utgyrn, gyda'r gwŷr arfog o'u blaen a'r ôl-osgordd yn dilyn yr arch; yr oedd yr utgyrn yn seinio wrth iddynt fynd.
14 Ar ôl amgylchu'r ddinas un waith ar yr ail ddiwrnod, aethant yn eu hôl i'r gwersyll. Gwnaethant felly am chwe diwrnod.