1 Dyma yn awr enwau meibion Israel, y rhai a ddaethant i'r Aifft: gyda Jacob y daethant, bob un a'i deulu.
2 Reuben, Simeon, Lefi, a Jwda,
3 Issachar, Sabulon, a Benjamin,
4 Dan, a Nafftali, Gad, ac Aser.
5 A'r holl eneidiau a ddaethant allan o gorff Jacob oedd ddeng enaid a thrigain: a Joseff oedd yn yr Aifft.
6 A Joseff a fu farw, a'i holl frodyr, a'r holl genhedlaeth honno.
7 A phlant Israel a hiliasant ac a gynyddasant, amlhasant hefyd, a chryfhasant yn ddirfawr odiaeth; a'r wlad a lanwyd ohonynt.