Exodus 31 BWM

1 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Gwêl, mi a elwais wrth ei enw ar Besaleel fab Uri, fab Hur, o lwyth Jwda;

3 Ac a'i llenwais ef ag ysbryd Duw, mewn doethineb, ac mewn deall, ac mewn gwybodaeth hefyd, ac ym mhob rhyw waith,

4 I ddychmygu cywreinrwydd, i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn pres,

5 Ac mewn cyfarwyddyd, i osod meini, ac mewn saernïaeth pren, i weithio ym mhob gwaith.

6 Ac wele, mi a roddais gydag ef Aholïab fab Achisamach, o lwyth Dan: ac yng nghalon pob doeth o galon y rhoddais ddoethineb i wneuthur yr hyn oll a orchmynnais wrthyt.

7 Pabell y cyfarfod, ac arch y dystiolaeth, a'r drugareddfa yr hon sydd arni, a holl lestri y babell,

8 A'r bwrdd a'i lestri, a'r canhwyllbren pur a'i holl lestri, ac allor yr arogl‐darth,

9 Ac allor y poethoffrwm a'i holl lestri, a'r noe a'i throed,

10 A gwisgoedd y weinidogaeth, a'r gwisgoedd sanctaidd i Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion ef, i offeiriadu ynddynt,

11 Ac olew yr eneiniad, a'r arogl‐darth peraidd i'r cysegr; a wnânt yn ôl yr hyn oll a orchmynnais wrthyt.

12 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd,

13 Llefara hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Diau y cedwch fy Sabothau: canys arwydd yw rhyngof fi a chwithau, trwy eich cenedlaethau; i wybod mai myfi yw yr Arglwydd, sydd yn eich sancteiddio.

14 Am hynny cedwch y Saboth; oblegid sanctaidd yw i chwi: llwyr rodder i farwolaeth yr hwn a'i halogo ef; oherwydd pwy bynnag a wnelo waith arno, torrir ymaith yr enaid hwnnw o blith ei bobl.

15 Chwe diwrnod y gwneir gwaith, ac ar y seithfed dydd y mae Saboth gorffwystra sanctaidd i'r Arglwydd: pwy bynnag a wnelo waith y seithfed dydd, llwyr rodder ef i farwolaeth.

16 Am hynny cadwed meibion Israel y Saboth, gan gynnal Saboth trwy eu cenedlaethau, yn gyfamod tragwyddol.

17 Rhyngof fi a meibion Israel, y mae yn arwydd tragwyddol, mai mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd y nefoedd a'r ddaear; ac mai ar y seithfed dydd y peidiodd, ac y gorffwysodd efe.

18 Ac efe a roddodd i Moses, wedi iddo orffen llefaru wrtho ym mynydd Sinai, ddwy lech y dystiolaeth; sef llechau o gerrig, wedi eu hysgrifennu â bys Duw.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40