1 Ac efe a wnaeth allor y poethoffrwm o goed Sittim: o bum cufydd ei hyd, a phum cufydd ei lled, yn bedeirongl; ac yn dri chufydd ei huchder.
2 Gwnaeth hefyd ei chyrn hi ar ei phedair congl: ei chyrn hi oedd o'r un; ac efe a'i gwisgodd hi â phres.
3 Efe a wnaeth hefyd holl lestri yr allor, y crochanau, a'r rhawiau, a'r cawgiau, a'r cigweiniau, a'r pedyll tân: ei holl lestri hi a wnaeth efe o bres.
4 Ac efe a wnaeth i'r allor alch bres, ar waith rhwyd, dan ei chwmpas oddi tanodd hyd ei hanner hi.
5 Ac efe a fwriodd bedair modrwy i bedwar cwr yr alch bres, i fyned am drosolion.
6 Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim; ac a'u gwisgodd hwynt â phres.
7 Ac efe a dynnodd y trosolion trwy'r modrwyau ar ystlysau yr allor, i'w dwyn hi arnynt: yn gau y gwnaeth efe hi ag ystyllod.
8 Ac efe a wnaeth noe bres, a'i throed o bres, o ddrychau gwragedd, y rhai a ymgasglent yn finteioedd at ddrws pabell y cyfarfod.
9 Ac efe a wnaeth y cynteddfa: ar yr ystlys deau, tua'r deau, llenni'r cynteddfa oedd o liain main cyfrodedd, o gan cufydd:
10 A'u hugain colofn, ac a'u hugain mortais, o bres: a phennau'r colofnau a'u cylchau, o arian yr oeddynt.
11 Ac ar du'r gogledd, y llenni oedd gan cufydd; eu hugain colofn, a'u hugain mortais, o bres: a phennau'r colofnau a'u cylchau o arian.
12 Ac o du'r gorllewin, llenni o ddeg cufydd a deugain: eu deg colofn, a'u deg mortais, a phennau'r colofnau, a'u cylchau, o arian.
13 Ac i du'r dwyrain tua'r dwyrain yr oedd llenni o ddeg cufydd a deugain.
14 Llenni o bymtheg cufydd a wnaeth efe o'r naill du i'r porth; eu tair colofn, a'u tair mortais.
15 Ac efe a wnaeth ar yr ail ystlys, oddeutu drws porth y cynteddfa, lenni o bymtheg cufydd; eu tair colofn, a'u tair mortais.
16 Holl lenni'r cynteddfa o amgylch a wnaeth efe o liain main cyfrodedd.
17 A morteisiau'r colofnau, oedd o bres; pennau'r colofnau, a'u cylchau, o arian; a gwisg eu pennau, o arian; a holl golofnau'r cynteddfa oedd wedi eu cylchu ag arian.
18 A chaeadlen drws y cynteddfa ydoedd waith edau a nodwydd o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd; ac yn ugain cufydd o hyd, a'i huchder o'i lled yn bum cufydd, ar gyfer llenni'r cynteddfa.
19 Eu pedair colofn hefyd, a'u pedair mortais, oedd o bres; a'u pennau o arian; gwisg eu pennau hefyd a'u cylchau oedd arian.
20 A holl hoelion y tabernacl, a'r cynteddfa oddi amgylch, oedd bres.
21 Dyma gyfrif perthynasau y tabernacl, sef tabernacl y dystiolaeth, y rhai a gyfrifwyd wrth orchymyn Moses, i wasanaeth y Lefiaid, trwy law Ithamar, mab Aaron yr offeiriad.
22 A Besaleel, mab Uri, mab Hur, o lwyth Jwda, a wnaeth yr hyn oll a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses.
23 A chydag ef yr ydoedd Aholïab, mab Achisamach, o lwyth Dan, saer cywraint, a gwniedydd mewn sidan glas, ac mewn porffor, ac mewn ysgarlad, ac mewn lliain main.
24 Yr holl aur a weithiwyd yn y gwaith, sef yn holl waith y cysegr, sef aur yr offrwm, ydoedd naw talent ar hugain, a saith gan sicl a deg ar hugain, yn ôl sicl y cysegr.
25 Ac arian y rhai a gyfrifwyd o'r gynulleidfa, oedd gan talent, a mil a saith gant a phymtheg sicl a thrigain, yn ôl sicl y cysegr.
26 Beca am bob pen; sef hanner sicl, yn ôl sicl y cysegr, am bob un a elai heibio dan rif, o fab ugeinmlwydd ac uchod: sef am chwe chan mil a thair mil a phum cant a deg a deugain.
27 Ac o'r can talent arian y bwriwyd morteisiau'r cysegr, a morteisiau'r wahanlen; can mortais o'r can talent, talent i bob mortais.
28 Ac o'r mil a saith gant a phymtheg sicl a thrigain, y gwnaeth efe bennau'r colofnau; ac y gwisgodd eu pennau, ac y cylchodd hwynt.
29 A phres yr offrwm oedd ddeg talent a thrigain, a dwy fil a phedwar cant o siclau.
30 Ac efe a wnaeth o hynny forteisiau drws pabell y cyfarfod, a'r allor bres, a'r alch bres yr hon oedd iddi, a holl lestri'r allor;
31 A morteisiau'r cynteddfa o amgylch, a morteisiau porth y cynteddfa, a holl hoelion y tabernacl, a holl hoelion y cynteddfa o amgylch.