1 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Gwêl, mi a'th wneuthum yn dduw i Pharo: ac Aaron dy frawd fydd yn broffwyd i tithau.
2 Ti a leferi yr hyn oll a orchmynnwyf i ti; ac Aaron dy frawd a lefara wrth Pharo, ar iddo ollwng meibion Israel ymaith o'i wlad.
3 A minnau a galedaf galon Pharo, ac a amlhaf fy arwyddion a'm rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft.
4 Ond ni wrendy Pharo arnoch: yna y rhoddaf fy llaw ar yr Aifft; ac y dygaf allan fy lluoedd, fy mhobl, meibion Israel, o wlad yr Aifft, trwy farnedigaethau mawrion.
5 A'r Eifftiaid a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan estynnwyf fy llaw ar yr Aifft, a dwyn meibion Israel allan o'u mysg hwynt.
6 A gwnaeth Moses ac Aaron fel y gorchmynnodd yr Arglwydd iddynt; ie, felly y gwnaethant.
7 A Moses ydoedd fab pedwar ugain mlwydd, ac Aaron yn fab tair blwydd a phedwar ugain, pan lefarasant wrth Pharo.
8 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd,
9 Pan lefaro Pharo wrthych, gan ddywedyd, Dangoswch gennych wyrthiau; yna y dywedi wrth Aaron, Cymer dy wialen, a bwrw hi gerbron Pharo; a hi a â yn sarff.
10 A Moses ac Aaron a aethant i mewn at Pharo, ac a wnaethant felly, megis y gorchmynasai yr Arglwydd: ac Aaron a fwriodd ei wialen gerbron Pharo, a cherbron ei weision; a hi a aeth yn sarff.
11 A Pharo hefyd a alwodd am y doethion, a'r hudolion: a hwythau hefyd, sef swynwyr yr Aifft, a wnaethant felly trwy eu swynion.
12 Canys bwriasant bob un ei wialen; a hwy a aethant yn seirff: ond gwialen Aaron a lyncodd eu gwiail hwynt.
13 A chalon Pharo a galedodd, fel na wrandawai arnynt hwy; megis y llefarasai yr Arglwydd.
14 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Caledodd calon Pharo; gwrthododd ollwng y bobl ymaith.
15 Dos at Pharo yn fore: wele efe a ddaw allan i'r dwfr; saf dithau ar lan yr afon erbyn ei ddyfod ef; a chymer yn dy law y wialen a drodd yn sarff.
16 A dywed wrtho ef, Arglwydd Dduw yr Hebreaid a'm hanfonodd atat, i ddywedyd, Gollwng ymaith fy mhobl, fel y'm gwasanaethont yn yr anialwch: ac wele, hyd yn hyn, ni wrandewit.
17 Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Wrth hyn y cei wybod mai myfi yw yr Arglwydd: wele, myfi â'r wialen sydd yn fy llaw a drawaf y dyfroedd sydd yn yr afon, fel y troer hwynt yn waed.
18 A'r pysg sydd yn yr afon a fyddant feirw, a'r afon a ddrewa; a bydd blin gan yr Eifftiaid yfed dwfr o'r afon.
19 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Dywed wrth Aaron, Cymer dy wialen, ac estyn dy law ar ddyfroedd yr Aifft, ar eu ffrydiau, ar eu hafonydd, ac ar eu pyllau, ac ar eu holl lynnau dyfroedd, fel y byddont yn waed; a bydd gwaed trwy holl wlad yr Aifft, yn eu llestri coed a cherrig hefyd.
20 A Moses ac Aaron a wnaethant fel y gorchmynnodd yr Arglwydd: ac efe a gododd ei wialen, ac a drawodd y dyfroedd y rhai oeddynt yn yr afon, yng ngŵydd Pharo, ac yng ngŵydd ei weision; a'r holl ddyfroedd y rhai oeddynt yn yr afon a drowyd yn waed.
21 A'r pysgod, y rhai oeddynt yn yr afon, a fuant feirw; a'r afon a ddrewodd, ac ni allai yr Eifftiaid yfed dwfr o'r afon; a gwaed oedd trwy holl wlad yr Aifft.
22 A swynwyr yr Aifft a wnaethant y cyffelyb trwy eu swynion: a chaledodd calon Pharo, ac ni wrandawodd arnynt; megis y llefarasai yr Arglwydd.
23 A Pharo a drodd ac a aeth i'w dŷ, ac ni osododd hyn at ei galon.
24 A'r holl Eifftiaid a gloddiasant oddi amgylch yr afon am ddwfr i'w yfed; canys ni allent yfed o ddwfr yr afon.
25 A chyflawnwyd saith o ddyddiau, wedi i'r Arglwydd daro'r afon.