Exodus 39 BWM

1 Ac o'r sidan glas, a'r porffor, a'r ysgarlad, y gwnaethant wisgoedd gweinidogaeth, i weini yn y cysegr: gwnaethant y gwisgoedd sanctaidd i Aaron; fel y gorchmynasai'r Arglwydd wrth Moses.

2 Ac efe a wnaeth yr effod o aur, sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd.

3 A gyrasant yr aur yn ddalennau teneuon, ac a'i torasant yn edafedd, i weithio yn y sidan glas, ac yn y porffor, ac yn yr ysgarlad, ac yn y lliain main, yn waith cywraint.

4 Ysgwyddau a wnaethant iddi yn cydio: wrth ei dau gwr y cydiwyd hi.

5 A gwregys cywraint ei effod ef, yr hwn oedd arni, ydoedd o'r un, yn unwaith â hi; o aur, sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd: megis y gorchmynasai'r Arglwydd wrth Moses.

6 A hwy a weithiasant feini onics wedi eu gosod mewn boglynnau aur, wedi eu naddu â naddiadau sêl, ag enwau meibion Israel ynddynt.

7 A gosododd hwynt ar ysgwyddau yr effod, yn feini coffadwriaeth i feibion Israel; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses.

8 Efe a wnaeth hefyd y ddwyfronneg o waith cywraint, ar waith yr effod; o aur, sidan glas, porffor hefyd, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd.

9 Pedeirongl ydoedd; yn ddau ddyblyg y gwnaethant y ddwyfronneg: o rychwant ei hyd, a rhychwant ei lled, yn ddau ddyblyg.

10 A gosodasant ynddi bedair rhes o feini: rhes o sardius, topas, a smaragdus, ydoedd y rhes gyntaf.

11 A'r ail res oedd, carbuncl, saffir, ac adamant.

12 A'r drydedd res ydoedd, lygur, acat, ac amethyst.

13 A'r bedwaredd res ydoedd, beryl, onics, a iasbis; wedi eu hamgylchu mewn boglynnau aur yn eu lleoedd.

14 A'r meini oedd yn ôl enwau meibion Israel, yn ddeuddeg, yn ôl eu henwau hwynt; pob un wrth ei enw oeddynt, o naddiadau sêl, yn ôl y deuddeg llwyth.

15 A hwy a wnaethant ar y ddwyfronneg gadwynau ar y cyrrau, yn blethwaith o aur pur.

16 A gwnaethant ddau foglyn aur, a dwy fodrwy o aur; ac a roddasant y ddwy fodrwy ar ddau gwr y ddwyfronneg.

17 A rhoddasant y ddwy gadwyn blethedig o aur trwy'r ddwy fodrwy ar gyrrau'r ddwyfronneg.

18 A deupen y ddwy gadwyn blethedig a roddasant ynglŷn yn y ddau foglyn; ac a'u gosodasant ar ysgwyddau yr effod, o'r tu blaen.

19 Gwnaethant hefyd ddwy fodrwy o aur, ac a'u gosodasant ar ddau ben y ddwyfronneg, ar yr ymyl sydd ar ystlys yr effod, o'r tu mewn.

20 A hwy a wnaethant ddwy fodrwy aur, ac a'u gosodasant ar ddau ystlys yr effod, oddi tanodd tua'i thu blaen, ar gyfer ei chydiad, oddi ar wregys yr effod.

21 Rhwymasant hefyd y ddwyfronneg, erbyn ei modrwyau, wrth fodrwyau yr effod, â llinyn o sidan glas, i fod oddi ar wregys yr effod, fel na ddatodid y ddwyfronneg oddi wrth yr effod; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

22 Ac efe a wnaeth fantell yr effod i gyd o sidan glas, yn weadwaith.

23 A thwll y fantell oedd yn ei chanol, fel twll llurig, a gwrym o amgylch y twll, rhag ei rhwygo.

24 A gwnaethant ar odre'r fantell bomgranadau, o sidan glas, porffor, ac ysgarlad, a lliain cyfrodedd.

25 Gwnaethant hefyd glych o aur pur, ac a roddasant y clych rhwng y pomgranadau, ar odre'r fantell, o amgylch, ymysg y pomgranadau,

26 Cloch a phomgranad, a chloch a phomgranad, ar odre'r fantell o amgylch, i weini ynddynt: megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

27 A hwy a wnaethant beisiau o liain main, o weadwaith, i Aaron ac i'w feibion.

28 A meitr o liain main, a chapiau hardd o liain main, a llodrau lliain o liain main cyfrodedd,

29 A gwregys o liain main cyfrodedd, ac o sidan glas, porffor, ac ysgarlad, o waith edau a nodwydd; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

30 Gwnaethant hefyd dalaith y goron sanctaidd o aur pur; ac a ysgrifenasant arni ysgrifen, fel naddiad sêl: SANCTEIDDRWYDD I'R ARGLWYDD.

31 A rhoddasant wrthi linyn o sidan glas, i'w dal hi i fyny ar y meitr; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

32 Felly y gorffennwyd holl waith y tabernacl, sef pabell y cyfarfod: a meibion Israel a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses; felly y gwnaethant.

33 Dygasant hefyd y tabernacl at Moses, y babell a'i holl ddodrefn, ei bachau, ei hystyllod, ei barrau, a'i cholofnau, a'i morteisiau,

34 A'r to o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a'r to o grwyn daearfoch, a'r llen wahan yr hon oedd yn gorchuddio;

35 Arch y dystiolaeth, a'i throsolion, a'r drugareddfa;

36 Y bwrdd hefyd, a'i holl lestri, a'r bara dangos;

37 Y canhwyllbren pur, a'i lampau, a'r lampau i'w gosod mewn trefn, ei holl lestri, ac olew i'r goleuni;

38 A'r allor aur, ac olew yr eneiniad, a'r arogl‐darth llysieuog, a chaeadlen drws y babell;

39 Yr allor bres, a'r alch bres yr hon oedd iddi, ei throsolion, a'i holl lestri; y noe a'i throed;

40 Llenni'r cynteddfa, ei golofnau, a'i forteisiau, a chaeadlen porth y cynteddfa, ei rhaffau, a'i hoelion, a holl ddodrefn gwasanaeth y tabernacl, sef pabell y cyfarfod;

41 Gwisgoedd y weinidogaeth i weini yn y cysegr, sanctaidd wisgoedd Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion ef i offeiriadu.

42 Yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses, felly y gwnaeth meibion Israel yr holl waith.

43 A Moses a edrychodd ar yr holl waith; ac wele, hwy a'i gwnaethant megis y gorchmynasai yr Arglwydd, felly y gwnaethent: a Moses a'u bendithiodd hwynt.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40