Exodus 35 BWM

1 Casglodd Moses hefyd holl gynulleidfa meibion Israel, a dywedodd wrthynt, Dyma'r pethau a orchmynnodd yr Arglwydd eu gwneuthur.

2 Chwe diwrnod y gwneir gwaith; ar y seithfed dydd y bydd i chwi ddydd sanctaidd, Saboth gorffwys i'r Arglwydd: llwyr rodder i farwolaeth pwy bynnag a wnelo waith arno.

3 Na chyneuwch dân yn eich holl anheddau ar y dydd Saboth.

4 A Moses a lefarodd wrth holl gynulleidfa meibion Israel, gan ddywedyd, Dyma'r peth a orchmynnodd yr Arglwydd, gan ddywedyd,

5 Cymerwch o'ch plith offrwm yr Arglwydd: pob un ewyllysgar ei galon dyged hyn yn offrwm i'r Arglwydd; aur, ac arian, a phres,

6 A sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main, a blew geifr,

7 A chrwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a chrwyn daearfoch, a choed Sittim,

8 Ac olew i'r goleuni, a llysiau i olew yr ennaint, ac i'r arogl‐darth peraidd,

9 A meini onics, a meini i'w gosod yn yr effod, ac yn y ddwyfronneg.

10 A phob doeth ei galon yn eich plith, deuant a gweithiant yr hyn oll a orchmynnodd yr Arglwydd;

11 Y tabernacl, ei babell‐len a'i do, ei fachau a'i ystyllod, ei farrau, ei golofnau, a'i forteisiau,

12 Yr arch, a'i throsolion, y drugareddfa, a'r wahanlen, yr hon a'i gorchuddia,

13 Y bwrdd, a'i drosolion, a'i holl lestri, a'r bara dangos,

14 A chanhwyllbren y goleuni, a'i offer, a'i lampau, ac olew y goleuni,

15 Ac allor yr arogl‐darth, a'i throsolion, ac olew yr eneiniad, a'r arogl‐darth peraidd, a chaeadlen y drws i fyned i'r tabernacl,

16 Allor y poethoffrwm a'i halch bres, ei throsolion, a'i holl lestri, y noe a'i throed,

17 Llenni'r cynteddfa, ei golofnau, a'i forteisiau, caeadlen porth y cynteddfa,

18 Hoelion y tabernacl, a hoelion y cynteddfa, a'u rhaffau hwynt,

19 A gwisgoedd y weinidogaeth i weini yn y cysegr, sanctaidd wisgoedd Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion ef, i offeiriadu ynddynt.

20 A holl gynulleidfa meibion Israel a aethant allan oddi gerbron Moses.

21 A phob un yr hwn y cynhyrfodd ei galon ef, a phob un yr hwn y gwnaeth ei ysbryd ef yn ewyllysgar, a ddaethant, ac a ddygasant offrwm i'r Arglwydd, tuag at waith pabell y cyfarfod, a thuag at ei holl wasanaeth hi, a thuag at y gwisgoedd sanctaidd.

22 A daethant yn wŷr ac yn wragedd; pob un a'r a oedd ewyllysgar ei galon a ddygasant freichledau, a chlustlysau, a modrwyau, a chadwynau, pob math ar dlysau aur; a phob gŵr a'r a offrymodd offrwm, a offrymodd aur i'r Arglwydd.

23 A phob un a'r y caed gydag ef sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main, a blew geifr, a chrwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a chrwyn daearfoch, a'u dygasant.

24 Pob un a'r a offrymodd offrwm o arian a phres, a ddygasant offrwm i'r Arglwydd: a phob un a'r y caed gydag ef goed Sittim i ddim o waith y gwasanaeth a'i dygasant.

25 A phob gwraig ddoeth o galon a nyddodd â'i dwylo; ac a ddygasant yr edafedd sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main.

26 A'r holl wragedd y rhai y cynhyrfodd eu calonnau hwynt mewn cyfarwyddyd, a nyddasant flew geifr.

27 A'r penaethiaid a ddygasant feini onics, a meini i'w gosod ar yr effod, ac ar y ddwyfronneg;

28 A llysiau, ac olew i'r goleuni, ac i olew yr ennaint, ac i'r arogl‐darth peraidd.

29 Holl blant Israel, yn wŷr ac yn wragedd, y rhai a glywent ar eu calon offrymu tuag at yr holl waith a orchmynasai'r Arglwydd trwy law Moses ei wneuthur, a ddygasant i'r Arglwydd offrwm ewyllysgar.

30 A dywedodd Moses wrth feibion Israel, Gwelwch, galwodd yr Arglwydd erbyn ei enw, Besaleel, fab Uri, fab Hur, o lwyth Jwda:

31 Ac a'i llanwodd ef ag ysbryd Duw, mewn cyfarwyddyd, mewn deall, ac mewn gwybodaeth, ac mewn pob gwaith;

32 I ddychmygu cywreinrwydd, i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn pres,

33 Ac mewn cyfarwyddyd i osod meini, ac mewn saernïaeth pren, i weithio ym mhob gwaith cywraint.

34 Ac efe a roddodd yn ei galon ef ddysgu eraill; efe, ac Aholïab, mab Achisamach, o lwyth Dan.

35 Efe a'u llanwodd hwynt â doethineb calon, i wneuthur pob gwaith saer a chywreinwaith, a gwaith edau a nodwydd, mewn sidan glas, ac mewn porffor, ac mewn ysgarlad, ac mewn lliain main, ac i wau, gan wneuthur pob gwaith, a dychmygu cywreinrwydd.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40