Exodus 24 BWM

1 Ac efe a ddywedodd wrth Moses, Tyred i fyny at yr Arglwydd, ti ac Aaron, Nadab ac Abihu, a'r deg a thrigain o henuriaid Israel; ac addolwch o hirbell.

2 Ac aed Moses ei hun at yr Arglwydd; ac na ddelont hwy, ac nac aed y bobl i fyny gydag ef.

3 A Moses a ddaeth, ac a fynegodd i'r bobl holl eiriau yr Arglwydd, a'r holl farnedigaethau. Ac atebodd yr holl bobl yn unair, ac a ddywedasant, Ni a wnawn yr holl eiriau a lefarodd yr Arglwydd.

4 A Moses a ysgrifennodd holl eiriau yr Arglwydd; ac a gododd yn fore, ac a adeiladodd allor islaw y mynydd, a deuddeg colofn, yn ôl deuddeg llwyth Israel.

5 Ac efe a anfonodd lanciau meibion Israel; a hwy a offrymasant boethoffrymau, ac a aberthasant fustych yn ebyrth hedd i'r Arglwydd.

6 A chymerodd Moses hanner y gwaed, ac a'i gosododd mewn cawgiau, a hanner y gwaed a daenellodd efe ar yr allor.

7 Ac efe a gymerth lyfr y cyfamod, ac a'i darllenodd lle y clywai'r bobl. A dywedasant, Ni a wnawn, ac a wrandawn yr hyn oll a lefarodd yr Arglwydd.

8 A chymerodd Moses y gwaed, ac a'i taenellodd ar y bobl; ac a ddywedodd, Wele waed y cyfamod, yr hwn a wnaeth yr Arglwydd â chwi, yn ôl yr holl eiriau hyn.

9 Yna yr aeth Moses i fyny, ac Aaron, Nadab ac Abihu, a deg a thrigain o henuriaid Israel.

10 A gwelsant Dduw Israel; a than ei draed megis gwaith o faen saffir, ac fel corff y nefoedd o ddisgleirder.

11 Ac ni roddes ei law ar bendefigion meibion Israel; ond gwelsant Dduw, a bwytasant ac yfasant.

12 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Tyred i fyny ataf i'r mynydd, a bydd yno: a mi a roddaf i ti lechau cerrig, a chyfraith, a gorchmynion, y rhai a ysgrifennais, i'w dysgu hwynt.

13 A chododd Moses, a Josua ei weinidog; ac aeth Moses i fyny i fynydd Duw.

14 Ac wrth yr henuriaid y dywedodd, Arhoswch ni yma, hyd oni ddelom ni atoch drachefn: ac wele, Aaron a Hur gyda chwi; pwy bynnag a fyddo ag achos iddo, deued atynt hwy.

15 A Moses a aeth i fyny i'r mynydd; a chwmwl a orchuddiodd y mynydd.

16 A gogoniant yr Arglwydd a arhodd ar fynydd Sinai, a'r cwmwl a'i gorchuddiodd chwe diwrnod: ac efe a alwodd am Moses y seithfed dydd o ganol y cwmwl.

17 A'r golwg ar ogoniant yr Arglwydd oedd fel tân yn difa ar ben y mynydd, yng ngolwg meibion Israel.

18 A Moses a aeth i ganol y cwmwl, ac a aeth i fyny i'r mynydd: a bu Moses yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40