Exodus 21 BWM

1 Dyma y barnedigaethau a osodi di ger eu bron hwynt.

2 Os pryni was o Hebread, gwasanaethed chwe blynedd; a'r seithfed y caiff yn rhad fyned ymaith yn rhydd.

3 Os ar ei ben ei hun y daeth, ar ei ben ei hun y caiff fyned allan: os perchen gwraig fydd efe, aed ei wraig allan gydag ef.

4 Os ei feistr a rydd wraig iddo, a hi yn planta iddo feibion, neu ferched; y wraig a'i phlant fydd eiddo ei meistr, ac aed efe allan ar ei ben ei hun.

5 Ac os gwas gan ddywedyd a ddywed, Hoff gennyf fi fy meistr, fy ngwraig, a'm plant; nid af fi allan yn rhydd:

6 Yna dyged ei feistr ef at y barnwyr; a dyged ef at y ddôr, neu at yr orsin: a thylled ei feistr ei glust ef â mynawyd; ac efe a'i gwasanaetha ef byth.

7 Ac os gwerth gŵr ei ferch yn forwyn gaeth, ni chaiff hi fyned allan fel yr êl y gweision caeth allan.

8 Os heb ryglyddu bodd yng ngolwg ei meistr y bydd hi, yr hwn a'i cymerodd hi yn ddyweddi; yna gadawed ei hadbrynu hi: ni bydd rhydd iddo ei gwerthu hi i bobl ddieithr, wedi iddo ef ei thwyllo hi.

9 Ac os i'w fab y dyweddiodd efe hi, gwnaed iddi yn ôl deddf y merched.

10 Ac os arall a brioda efe, na wnaed yn llai ei hymborth, ei dillad, na'i dyled priodas.

11 Ac os y tri hyn nis gwna efe iddi; yna aed hi allan yn rhad heb arian.

12 Rhodder i farwolaeth y neb a drawo ŵr, fel y byddo marw.

13 Ond yr hwn ni chynllwynodd, ond rhoddi o Dduw ef yn ei law ef, mi a osodaf i ti fan lle y caffo ffoi.

14 Ond os daw dyn yn rhyfygus ar ei gymydog, i'w ladd ef trwy dwyll; cymer ef i farwolaeth oddi wrth fy allor.

15 Y neb a drawo ei dad, neu ei fam, rhodder ef i farwolaeth.

16 Yr hwn a ladratao ddyn, ac a'i gwertho, neu os ceir ef yn ei law ef, rhodder ef i farwolaeth.

17 Rhodder i farwolaeth yr hwn a felltithio ei dad, neu ei fam.

18 A phan ymrysono dynion, a tharo o'r naill y llall â charreg, neu â dwrn, ac efe heb farw, ond gorfod iddo orwedd;

19 Os cyfyd efe, a rhodio allan wrth ei ffon; yna y trawydd a fydd dihangol: yn unig rhodded ei golled am ei waith, a chan feddyginiaethu meddyginiaethed ef.

20 Ac os tery un ei wasanaethwr, neu ei wasanaethferch, â gwialen, fel y byddo farw dan ei law ef; gan ddial dialer arno.

21 Ond os erys ddiwrnod, neu ddau ddiwrnod, na ddialer arno; canys gwerth ei arian ei hun ydoedd efe.

22 Ac os ymrafaelia dynion, a tharo ohonynt wraig feichiog, fel yr êl ei beichiogi oddi wrthi, ac heb fod marwolaeth: gan gosbi cosber ef, fel y gosodo gŵr y wraig arno; a rhodded hynny trwy farnwyr.

23 Ac os marwolaeth fydd; rhodder einioes am einioes,

24 Llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed,

25 Llosg am losg, archoll am archoll, a chlais am glais.

26 Os tery un lygad ei wasanaethwr, neu lygad ei wasanaethferch, fel y llygro ef; gollynged ef yn rhydd am ei lygad:

27 Ac os tyr efe ymaith ddant ei wasanaethwr, neu ddant ei wasanaethferch; gollynged ef yn rhydd am ei ddant.

28 Ac os ych a gornia ŵr neu wraig, fel y byddo farw: gan labyddio llabyddier yr ych, ac na fwytaer ei gig ef; ac aed perchen yr ych yn rhydd.

29 Ond os yr ych oedd yn cornio o'r blaen, a hynny trwy dystion wedi ei hysbysu i'w berchennog; ac efe heb ei gadw ef, ond lladd ohono ŵr neu wraig: yr ych a labyddir, a'i berchennog a roddir i farwolaeth hefyd.

30 Os iawn a roddir arno, rhodded werth am ei einioes, yn ôl yr hyn oll a osoder arno.

31 Os mab a gornia efe, neu ferch a gornia efe; gwneler iddo yn ôl y farnedigaeth hon.

32 Ond os gwasanaethwr neu wasanaethferch a gornia yr ych; rhodded i'w perchennog ddeg sicl ar hugain o arian, a llabyddier yr ych.

33 Ac os egyr gŵr bydew, neu os cloddia un bydew, ac heb gau arno; a syrthio yno ych, neu asyn;

34 Perchen y pydew a dâl amdanynt: arian a dâl efe i'w perchennog; a'r anifail marw a fydd iddo yntau.

35 Ac os ych gŵr a dery ych ei gymydog, fel y byddo efe farw; yna gwerthant yr ych byw, a rhannant ei werth ef, a'r ych marw a rannant hefyd.

36 Neu os gwybuwyd ei fod ef yn ych hwyliog o'r blaen, a'i berchennog heb ei gadw ef; gan dalu taled ych am ych, a bydded y marw yn eiddo ef.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40