11 Am hynny y gosodasant arnynt feistriaid gwaith, i'w gorthrymu â'u beichiau; a hwy a adeiladasant i Pharo ddinasoedd trysorau, sef Pithom a Raamses.
12 Ond fel y gorthryment hwynt, felly yr amlhaent, ac y cynyddent: a drwg oedd ganddynt oherwydd plant Israel.
13 A'r Eifftiaid a wnaeth i blant Israel wasanaethu yn galed.
14 A gwnaethant eu heinioes hwynt yn chwerw trwy'r gwasanaeth caled, mewn clai, ac mewn priddfaen, ac ym mhob gwasanaeth yn y maes; a'u holl wasanaeth y gwnaent iddynt wasanaethu ynddo oedd galed.
15 A brenin yr Aifft a lefarodd wrth fydwragedd yr Hebreësau; a ba rai enw un oedd Sipra, ac enw yr ail Pua:
16 Ac efe a ddywedodd, Pan fyddoch fydwragedd i'r Hebreësau, a gweled ohonoch hwynt yn esgor; os mab fydd, lleddwch ef; ond os merch, bydded fyw.
17 Er hynny y bydwragedd a ofnasant Dduw, ac ni wnaethant yn ôl yr hyn a ddywedasai brenin yr Aifft wrthynt; eithr cadwasant y bechgyn yn fyw.