16 Ac efe a ddywedodd, Pan fyddoch fydwragedd i'r Hebreësau, a gweled ohonoch hwynt yn esgor; os mab fydd, lleddwch ef; ond os merch, bydded fyw.
17 Er hynny y bydwragedd a ofnasant Dduw, ac ni wnaethant yn ôl yr hyn a ddywedasai brenin yr Aifft wrthynt; eithr cadwasant y bechgyn yn fyw.
18 Am hynny brenin yr Aifft a alwodd am y bydwragedd, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y gwnaethoch y peth hyn, ac y cadwasoch y bechgyn yn fyw?
19 A'r bydwragedd a ddywedasant wrth Pharo, Am nad yw yr Hebreësau fel yr Eifftesau; oblegid y maent hwy yn fywiog ac yn esgor cyn dyfod bydwraig atynt.
20 Am hynny y bu Duw dda wrth y bydwragedd: a'r bobl a amlhaodd, ac a aeth yn gryf iawn.
21 Ac oherwydd i'r bydwragedd ofni Duw, yntau a wnaeth dai iddynt hwythau.
22 A Pharo a orchmynnodd i'w holl bobl, gan ddywedyd, Pob mab a'r a enir, bwriwch ef i'r afon; ond cedwch yn fyw bob merch.