4 Dan, a Nafftali, Gad, ac Aser.
5 A'r holl eneidiau a ddaethant allan o gorff Jacob oedd ddeng enaid a thrigain: a Joseff oedd yn yr Aifft.
6 A Joseff a fu farw, a'i holl frodyr, a'r holl genhedlaeth honno.
7 A phlant Israel a hiliasant ac a gynyddasant, amlhasant hefyd, a chryfhasant yn ddirfawr odiaeth; a'r wlad a lanwyd ohonynt.
8 Yna y cyfododd brenin newydd yn yr Aifft, yr hwn nid adnabuasai mo Joseff.
9 Ac efe a ddywedodd wrth ei bobl, Wele bobl plant Israel yn amlach, ac yn gryfach, na nyni.
10 Deuwch, gwnawn yn gall â hwynt; rhag amlhau ohonynt, a bod, pan ddigwyddo rhyfel, ymgysylltu ohonynt â'n caseion, a rhyfela i'n herbyn, a myned i fyny o'r wlad.