1 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dos at Pharo: oherwydd mi a galedais ei galon ef, a chalon ei weision; fel y dangoswn fy arwyddion hyn yn ei ŵydd ef:
2 Ac fel y mynegit wrth dy fab, a mab dy fab, yr hyn a wneuthum yn yr Aifft, a'm harwyddion a wneuthum yn eu plith hwynt; ac y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd.
3 A daeth Moses ac Aaron i mewn at Pharo, a dywedasant wrtho, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw yr Hebreaid; Pa hyd y gwrthodi ymostwng ger fy mron? gollwng ymaith fy mhobl, fel y'm gwasanaethont.
4 Oherwydd os ti a wrthodi ollwng fy mhobl, wele, yfory y dygaf locustiaid i'th fro;