15 Canys toesant wyneb yr holl dir, a thywyllodd y wlad; a hwy a ysasant holl lysiau y ddaear, a holl ffrwythau y coed, yr hyn a weddillasai y cenllysg: ac ni adawyd dim gwyrddlesni ar goed, nac ar lysiau y maes, o fewn holl wlad yr Aifft.
16 Yna Pharo a alwodd am Moses ac Aaron ar frys; ac a ddywedodd, Pechais yn erbyn yr Arglwydd eich Duw, ac yn eich erbyn chwithau.
17 Ac yn awr maddau, atolwg, fy mhechod y waith hon yn unig, a gweddïwch ar yr Arglwydd eich Duw, ar iddo dynnu oddi wrthyf y farwolaeth hon yn unig.
18 A Moses a aeth allan oddi wrth Pharo, ac a weddïodd ar yr Arglwydd.
19 A'r Arglwydd a drodd wynt gorllewin cryf iawn, ac efe a gymerodd ymaith y locustiaid, ac a'u bwriodd hwynt i'r môr coch: ni adawyd un locust o fewn holl derfynau yr Aifft.
20 Er hynny caledodd yr Arglwydd galon Pharo, fel na ollyngai efe feibion Israel ymaith.
21 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Estyn dy law tua'r nefoedd, fel y byddo tywyllwch ar dir yr Aifft, tywyllwch a aller ei deimlo.