22 A Moses a estynnodd ei law tua'r nefoedd: a bu tywyllwch dudew trwy holl wlad yr Aifft dri diwrnod.
23 Ni welai neb ei gilydd, ac ni chododd neb o'i le dri diwrnod: ond yr ydoedd goleuni i holl feibion Israel yn eu trigfannau.
24 A galwodd Pharo am Moses ac Aaron, ac a ddywedodd, Ewch, gwasanaethwch yr Arglwydd; arhoed eich defaid, a'ch gwartheg yn unig; aed eich rhai bach hefyd gyda chwi.
25 A dywedodd Moses, Ti a roddi hefyd yn ein dwylo ebyrth a phoethoffrymau, fel yr aberthom i'r Arglwydd ein Duw.
26 Aed ein hanifeiliaid hefyd gyda ni; ni adewir ewin yn ôl: oblegid ohonynt y cymerwn i wasanaethu yr Arglwydd ein Duw: ac nis gwyddom â pha beth y gwasanaethwn yr Arglwydd, hyd oni ddelom yno.
27 Ond yr Arglwydd a galedodd galon Pharo, ac ni fynnai eu gollwng hwynt.
28 A dywedodd Pharo wrtho, Dos oddi wrthyf, gwylia arnat rhag gweled fy wyneb mwy: oblegid y dydd y gwelych fy wyneb, y byddi farw.