4 Oherwydd os ti a wrthodi ollwng fy mhobl, wele, yfory y dygaf locustiaid i'th fro;
5 A hwynt‐hwy a orchuddiant wyneb y ddaear, fel na allo un weled y ddaear: a hwy a ysant y gweddill a adawyd i chwi yn ddihangol gan y cenllysg; difânt hefyd bob pren a fyddo yn blaguro i chwi yn y maes.
6 Llanwant hefyd dy dai di, a thai dy holl weision, a thai yr holl Eifftiaid, y rhai ni welodd dy dadau, na thadau dy dadau, er y dydd y buont ar y ddaear hyd y dydd hwn. Yna efe a drodd, ac a aeth allan oddi wrth Pharo.
7 A gweision Pharo a ddywedasant wrtho, Pa hyd y bydd hwn yn fagl i ni? gollwng ymaith y gwŷr, fel y gwasanaethont yr Arglwydd eu Duw: Oni wyddost ti eto ddifetha'r Aifft?
8 A dychwelwyd Moses ac Aaron at Pharo: ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch, gwasanaethwch yr Arglwydd eich Duw: ond pa rai sydd yn myned?
9 A Moses a ddywedodd, A'n llanciau, ac â'n hynafgwyr, yr awn ni; â'n meibion hefyd, ac â'n merched, â'n defaid, ac â'n gwartheg, yr awn ni: oblegid rhaid i ni gadw gŵyl i'r Arglwydd
10 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yr un modd y byddo'r Arglwydd gyda chwi, ag y gollyngaf chwi, a'ch rhai bach: gwelwch, mai ar ddrwg y mae eich bryd.