8 A dychwelwyd Moses ac Aaron at Pharo: ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch, gwasanaethwch yr Arglwydd eich Duw: ond pa rai sydd yn myned?
9 A Moses a ddywedodd, A'n llanciau, ac â'n hynafgwyr, yr awn ni; â'n meibion hefyd, ac â'n merched, â'n defaid, ac â'n gwartheg, yr awn ni: oblegid rhaid i ni gadw gŵyl i'r Arglwydd
10 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yr un modd y byddo'r Arglwydd gyda chwi, ag y gollyngaf chwi, a'ch rhai bach: gwelwch, mai ar ddrwg y mae eich bryd.
11 Nid felly; ewch yn awr, y gwŷr, a gwasanaethwch yr Arglwydd: canys hyn yr oeddech yn ei geisio. Felly hwy a yrrwyd allan o ŵydd Pharo.
12 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Estyn dy law ar wlad yr Aifft am locustiaid, fel y delont i fyny ar dir yr Aifft; ac y bwytaont holl lysiau y ddaear, sef y cwbl a'r a adawodd y cenllysg.
13 A Moses a estynnodd ei wialen ar dir yr Aifft: a'r Arglwydd a ddug ddwyreinwynt ar y tir yr holl ddiwrnod hwnnw, a'r holl nos honno; a phan ddaeth y bore, gwynt y dwyrain a ddug locustiaid.
14 A'r locustiaid a aethant i fyny dros holl wlad yr Aifft, ac a arosasant ym mhob ardal i'r Aifft: blin iawn oeddynt; ni bu'r fath locustiaid o'u blaen hwynt, ac ar eu hôl ni bydd y cyffelyb.