1 Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Moses ac Aaron yn nhir yr Aifft, gan ddywedyd,
2 Y mis hwn fydd i chwi yn ddechreuad y misoedd: cyntaf fydd i chwi o fisoedd y flwyddyn.
3 Lleferwch wrth holl gynulleidfa Israel, gan ddywedyd, Ar y degfed dydd o'r mis hwn cymerant iddynt bob un oen, yn ôl teulu eu tadau, sef oen dros bob teulu.
4 Ond os y teulu fydd ry fychan i'r oen, efe a'i gymydog nesaf i'w dŷ a'i cymer, wrth y rhifedi o ddynion; pob un yn ôl ei fwyta a gyfrifwch at yr oen.