12 Oherwydd mi a dramwyaf trwy wlad yr Aifft y nos hon, ac a drawaf bob cyntaf‐anedig o fewn tir yr Aifft, yn ddyn ac yn anifail; a mi a wnaf farn yn erbyn holl dduwiau yr Aifft: myfi yw yr Arglwydd.
13 A'r gwaed fydd i chwi yn arwydd ar y tai lle byddoch chwi; a phan welwyf y gwaed, yna yr af heibio i chwi, ac ni bydd pla dinistriol arnoch chwi, pan drawyf dir yr Aifft.
14 A'r dydd hwn fydd yn goffadwriaeth i chwi; a chwi a'i cedwch ef yn ŵyl i'r Arglwydd trwy eich cenedlaethau: cedwch ef yn ŵyl trwy ddeddf dragwyddol.
15 Saith niwrnod y bwytewch fara croyw; y dydd cyntaf y bwriwch surdoes allan o'ch tai: oherwydd pwy bynnag a fwytao fara lefeinllyd o'r dydd cyntaf hyd y seithfed dydd, yr enaid hwnnw a dorrir ymaith oddi wrth Israel.
16 Ar y dydd cyntaf hefyd y bydd i chwi gymanfa sanctaidd, a chymanfa sanctaidd ar y seithfed dydd: dim gwaith ni wneir ynddynt, onid yr hyn a fwyty pob dyn, hynny yn unig a ellwch ei wneuthur.
17 Cedwch hefyd ŵyl y bara croyw; oherwydd o fewn corff y dydd hwn y dygaf eich lluoedd chwi allan o wlad yr Aifft: am hynny cedwch y dydd hwn yn eich cenedlaethau, trwy ddeddf dragwyddol.
18 Yn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis yn yr hwyr, y bwytewch fara croyw, hyd yr unfed dydd ar hugain o'r mis yn yr hwyr.