18 Yn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis yn yr hwyr, y bwytewch fara croyw, hyd yr unfed dydd ar hugain o'r mis yn yr hwyr.
19 Na chaffer surdoes yn eich tai saith niwrnod: canys pwy bynnag a fwytao fara lefeinllyd, yr enaid hwnnw a dorrir ymaith o gynulleidfa Israel, yn gystal y dieithr a'r priodor.
20 Na fwytewch ddim lefeinllyd: bwytewch fara croyw yn eich holl drigfannau.
21 A galwodd Moses am holl henuriaid Israel, ac a ddywedodd wrthynt, Tynnwch a chymerwch i chwi oen yn ôl eich teuluoedd, a lleddwch y Pasg.
22 A chymerwch dusw o isop, a throchwch ef yn y gwaed a fyddo yn y cawg, a rhoddwch ar gapan y drws, ac ar y ddau ystlysbost, o'r gwaed a fyddo yn y cawg; ac nac aed neb ohonoch allan o ddrws ei dŷ hyd y bore.
23 Oherwydd yr Arglwydd a dramwya i daro'r Eifftiaid: a phan welo efe y gwaed ar gapan y drws, ac ar y ddau ystlysbost, yna yr Arglwydd a â heibio i'r drws, ac ni ad i'r dinistrydd ddyfod i mewn i'ch tai chwi i ddinistrio.
24 A chwi a gedwch y peth hyn yn ddeddf i ti, ac i'th feibion yn dragywydd.