21 A galwodd Moses am holl henuriaid Israel, ac a ddywedodd wrthynt, Tynnwch a chymerwch i chwi oen yn ôl eich teuluoedd, a lleddwch y Pasg.
22 A chymerwch dusw o isop, a throchwch ef yn y gwaed a fyddo yn y cawg, a rhoddwch ar gapan y drws, ac ar y ddau ystlysbost, o'r gwaed a fyddo yn y cawg; ac nac aed neb ohonoch allan o ddrws ei dŷ hyd y bore.
23 Oherwydd yr Arglwydd a dramwya i daro'r Eifftiaid: a phan welo efe y gwaed ar gapan y drws, ac ar y ddau ystlysbost, yna yr Arglwydd a â heibio i'r drws, ac ni ad i'r dinistrydd ddyfod i mewn i'ch tai chwi i ddinistrio.
24 A chwi a gedwch y peth hyn yn ddeddf i ti, ac i'th feibion yn dragywydd.
25 A phan ddeloch i'r wlad a rydd yr Arglwydd i chwi, megis yr addawodd, yna cedwch y gwasanaeth hwn.
26 A bydd, pan ddywedo eich meibion wrthych, Pa wasanaeth yw hwn gennych?
27 Yna y dywedwch, Aberth Pasg yr Arglwydd ydyw, yr hwn a aeth heibio i dai meibion Israel yn yr Aifft, pan drawodd efe yr Eifftiaid, ac yr achubodd ein tai ni. Yna yr ymgrymodd y bobl, ac yr addolasant.